Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Gwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol

24 Chwefror 2015

12.15 – 13.30

Ystafell Friffio’r Cyfryngau

Rhandiroedd ac Amaethyddiaeth â Chymorth y Gymuned

 

Aelodau’r Cynulliad yn bresennol

Mick Antoniw (Cadeirydd)

Mark Isherwood

Yr ysgrifenyddiaeth

Alex Bird (Cadeirydd, Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru)

Siaradwyr

Y Cynghorydd Gareth Holden (Cyngor Caerdydd, Gabalfa) Nikki Giles (CSA Sir y Fflint), Gerald Miles (Caerhys CSA yn Sir Benfro)

Gwesteion

Helen Cunningham (Swyddfa Jenny Rathbone AC) John Charles (Rhandiroedd Allensbank) Alun Nutt (Rhandiroedd Torfaen) Steve Warbeys (Rhandiroedd Lecwydd) Terry Cooper (Rhandiroedd Fferm y Fforest) Howard Lewis (ChangeAGEnts) Karen Wilkie (Y Blaid Gydweithredol) a phum arall

 

Agorodd Mick Antoniw AC (y Cadeirydd) y cyfarfod am 12.30, gan groesawu'r gwesteion a chyflwyno'r siaradwyr.

Siaradodd Gareth Holden am ei rôl fel Hyrwyddwr Rhandiroedd a Thyfwyr Caerdydd. Mae ei ffocws dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod ar randiroedd. Mae Cymdeithas Deiliaid Rhandiroedd Caerdydd wedi'i hadfywio, ac mae'r Cyngor yn gweithio i gefnogi rheolaeth leol y rhandiroedd yn y ddinas. Mae 26 o safleoedd ar hyn o bryd, a rheolir wyth o'r rhain yn lleol.

Nid oes gan bob grŵp y gallu i hunan-reoli, felly mae'r Cyngor yn datblygu pum lefel o hunan-reoli y gall safleoedd ddewis ohonynt.

Mae Gareth yn awyddus i ddod â rhandiroedd, gerddi hamdden a gerddi cymunedol y ddinas ynghyd mewn un rhwydwaith.

Mae hefyd wedi gosod rhaglen ar gyfer Llywodraeth Cymru a fyddai o gymorth o ran datblygu rhandiroedd.

Gan fod cymaint o gynnyrch rhandir yn cael ei daflu ar adegau o orgynhyrchu, byddai deddfu i ganiatáu gwerthu cynnyrch dros ben yn ddefnyddiol, ac yn yr un modd ddeddfwriaeth i alluogi defnyddio categorïau eraill o dir cyhoeddus, megis parciau a thiroedd priffyrdd fel lleiniau ymyl ffordd.

Siaradodd Nikki Giles am y modd y datblygodd amaethyddiaeth â chymorth y gymuned yn sir y Fflint a ledled y DU. Erbyn hyn, mae tua 200 CSA yn Lloegr, a chwech yng Nghymru. Maent yn rhoi incwm sefydlog i'r cynhyrchwyr, sy'n cael eu cefnogi gan yr aelodau gwirfoddol sydd hefyd yn rhannu'r risg gyda hwy. Mae'r rhan fwyaf ar dir rhent, ac mae rhai ar ffermydd sydd wedi neilltuo rhywfaint o dir ar gyfer y CSA. Fel arfer, mae ganddynt rhwng pum erw a 100 erw lle mae'n anodd ffermio â pheiriannau, felly gwneir llawer o'r gwaith â llaw. Mae'r rhan fwyaf yn organig, ond nid pob un, ac o'r rhai sydd yn organig, nid yw pob un yn ymwneud ag ardystio, gan fod yr aelodau yn gwybod tarddiad y cynnyrch beth bynnag.

Lansiwyd Rhwydwaith CSA Cymru ar 14 Chwefror, a'i nod yw helpu'r mudiad i dyfu yng Nghymru. Mae angen rhywfaint o arian i ddechrau CSA er mwyn talu cyflog y cynhyrchydd yn y cyfnod cyn cynaeafu cnydau. Mae angen prynu offer hefyd.

Awgrymodd Nikki y gallai system fenthyca ar gyfer cychwyn CSA fod yn rhywbeth i Lywodraeth Cymru ei hystyried.

Soniodd Gerald Miles am ei brofiadau ef. Roedd ei fferm ef yn organig oddeutu15 mlynedd cyn i'r CSA ddechrau. Bu'n cynhyrchu llaeth, ond disgynnodd y pris wrth gât y fferm o 29c i 13c y litr yn 2003 ac fe gymerodd y penderfyniad anodd i werthu ei fuches a rhoi'r gorau i gynhyrchu llaeth. Roedd yn amser emosiynol, am mai buches a fagwyd ar y fferm am ddwy genhedlaeth ydoedd.

Yn 2009, gwelodd gyflwyniad gan Nick Reeve ar amaethyddiaeth â chymorth y gymuned, a chyda chymorth Grŵp Eco-ddinas Tyddewi, sefydlwyd y CSA gyda 12 o aelodau. Bellach, mae 54 aelod.

Mae'r CSA wedi dod ag ysbryd cymunedol yn ôl i'r fferm. Gyda chynnydd o ran mecaneiddio a lleihad yn yr angen am lafur o ganlyniad, gall ffermio heddiw fod yn fusnes unig, a gall hyn, ynghyd â'r ymdeimlad o gyfrifoldeb ar ysgwyddau unigolyn, arwain at iselder a gwaeth.

Bellach, mae cydberthynas agos rhwng y ffermwr a'r gymuned, ac felly mae'r defnyddwyr yn llawer mwy ymwybodol o fwyd a sut mae'n cael ei gynhyrchu. Maent wedi adeiladu ffwrn glom at bobi bara a phitsas, ac maent yn dod ynghyd bob mis er mwyn trin y tir, chwynnu a chynaeafu. Erbyn hyn, mae ganddynt wirfoddolwyr WWOOF yn ogystal â gwirfoddolwyr rhyngwladol drwy raglen ieuenctid Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig.

Cwestiynau a sylwadau:

Dywedodd Nikki Giles fod dod o hyd i dir yn broblem. Mae llawer o gynghorau yn gwerthu eu ffermydd tenant heb eu cynnig i'r gymuned

Gofynnodd Mark Isherwood AC a fyddai modd i'r Cadeirydd ysgrifennu at y Gweinidog i weld a ellir cynnwys CSAs mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Holden fod Cyngor Sir Caerdydd yn edrych ar y galw am gynlluniau CSA yn y ddinas, ac y dylai unrhyw grwpiau sydd â diddordeb gysylltu ag ef yn y Cyngor.

Gan nad oedd cwestiynau pellach, daeth Mick Antoniw AC â'r cyfarfod i ben am 13.25 a diolchodd i bawb am ddod.